Gofal Cleientiaid
Yr ydym yn dymuno darparu y gwasaneth gorau posib i’n cleientiaid. Fodd bynnag, os ydych yn anhapus ar unrhyw adeg neu’n bryderus am y gwasaneth yr ydym yn ei ddarparu yna a fyddech cystal a gadael i ni wybod yn syth, fel y gallwn wneud ein gorau i ddatrys y broblem.
I gychwyn, gallai fod o gymorth i chi gysylltu â’r person sydd yn gweithio ar eich achos er mwyn trafod eich pryderon ac fe fyddwn wedyn yn gwneud ein gorau i geisio datrys unrhyw broblem sydd wedi datblygu. Pe baech yn dymuno gwneud cwyn ffurfiol yna gallwch ddarllen y manylion llawn parthed ein Drefn Gwyno yn y fan hyn. Ni fydd gwneud cwyn yn effeithio sut yr ydym yn delio gyda’ch achos.
Gall yr Awdurdod Rheoli Cyfreithiwyr eich cynorthwyo os ydych yn pryderu ynglyn a’n hymddygiad. Gall hyn fod am bethau fel anonestrwydd, cymryd neu cholli eich arian neu eich trin yn anheg oherwydd eich oedran, anabledd neu nodwedd arall.
Gallwch wyntyllu eich pryderon yma:
Solicitors Regulation Authority
Os nad ydym yn gallu datrys eich cwyn
Gall yr Ombwdsman Cyfreithiol gynorthwyo os nad ydym yn gallu datrys eich cwyn ein hunain. Byddent yn ymchwilio i mewn i’ch cwyn yn annibynnol ac ni fydd hyn yn effeithio y modd y byddwn yn delio gyda’ch achos.
Cyn cytuno i ymchwilio i mewn i gwyn, mi fydd yr Ombwdsman Cyfreithiol yn sicrhau yn gyntaf eich bod wedi ceisio datrys eich cwyn gyda ni yn uniongyrchol yn gyntaf. Gweler ein trefn gwyno am ragor o wybodaeth.
Os ydych yn dymuno rhagor o wybodaeth am yr Ombwdsman Cyfreithiol yna mae eu manylion cyswllt fel a ganlyn:
www.legalombudsman.org.uk
Rhif ffon: 0300 555 0333 rhwng 9.00 a.m. a 5.00 p.m.
E bost: enquiries@legalombudsman.org.uk
Post: Legal Ombudsman, PO Box 6806, Wolverhampton, WV1 9WJ
Polisi Preifatrwydd
Y mae gan y cwmni bolisi preifatrwydd. Gallwch ddarllen y manylion llawn yma / Polisi Preifatrwydd (PDF)
Contracted with the Legal Aid Agency
- Authorised and regulated by the Solicitors Regulation Authority under Nos. 650937, 74843, 74844 and 74846